IoriTHOMASYn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Sul 3ydd o Chwefror 2019, hunodd Iori, Penlan, Trelech (Clungarthen gynt). Priod hoff Beryl, tad Wyn, Anthony, Rhian a Meirion, tad-yng-nghyfraith Eulon a Steffan a thadcu annwyl Elis, Cadi a Marged. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn ddydd Gwener 8fed o Chwefror. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion, os dymunir, i Ward Gwenllian, Ysbyty Glangwili trwy law'r trefnwr angladdau, Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE (01994 484540/07974 313719)
Keep me informed of updates